SL(6)712 – Gorchymyn Deddf Adeiladu 1984 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2025

Cefndir a Diben

Y Gorchymyn hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf sydd wedi’i wneud o dan Ddeddf Adeiladu 1984 (“y Ddeddf”) o ran Cymru yn unig. Fodd bynnag, mae dau orchymyn cychwyn cyn datganoli diogelwch adeiladau i Gymru wedi dwyn darpariaethau yn y Ddeddf i rym o ran Cymru a Lloegr.

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym adran 33 o’r Ddeddf o ran Cymru. Mae adran 33 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â phrofi a samplu at ddiben canfod a dorrwyd unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau adeiladu neu a ellid torri unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau adeiladu.

Gweithdrefn

Dim gweithdrefn.

Gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.7

Mae testun Saesneg y Gorchymyn yn dwyn adran 33 o’r Ddeddf i rym ar 1 Gorffennaf 2026 o ran Cymru. Fodd bynnag, mae testun Cymraeg y Gorchymyn yn dangos XXXX yn lle 1 Gorffennaf 2026 ym mhob lle y mae’n digwydd.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

15 Ionawr 2026